Fy Nuw fy Nuw fy Nhrysor drud

1,2,4,5,6,7;  1,3,4,5,6,7.
(Iesu ei hunan)
Fy Nuw, fy Nuw, fy Nhrysor drud,
A'm hunig gysur yn y byd;
  O d'wed pa le a ph'odd y mae,
  Im' wedd dy wyneb-pryd fwynhau.

Mae 'nymuniadau yma yn un,
Ti yw fy mhleser mawr dy hun;
  Os cuddi d'wyneb O fy Nuw!
  Darfu'm hyfrydwch o bob rhyw.

Cymmerant hwy, fawl fo am gael
Mwynhau o'u holl bleserau gwael;
  Ond boed fy awydd f'wyf byw,
  Am wel'd dy wyneb di fy Nuw.

A phe dihangai sÃẂr y ne',
Pe 'hedai'r ddaear fawr o'i lle
  Fy holl hapusrwydd, Iesu cu,
  Fyddai'n terfynu ynot Ti.

Nid dynion a phleserau'r byd
Sy'n haner abl llanw mryd;
  Mae'r cyfan ynot Ti'n ddi-drai
  Ag sy arnaf eisieu ei fwynhau.

'R wy'n dysgwyl dy leferydd glÃḃn,
Sy'n rhoi fy nghalon lesg ar dÃḃn;
  Un rhan o'th enw pur, pe cawn,
  A'm dodai oll yn llawen iawn.
William Williams 1717-91
Mor o Wydr 1773

[Mesur: MH 8888]

gwelir: 'Nawr boddlon wyf can's digon yw

(Jesus himself)
My God, my God, my precious Treasure,
And my only comfort in the world;
  O tell when and how shall,
  I enjoy the countenance of thy face.

My wishes here are as one,
Thou art my great pleasure thyself;
  If thou hidest thy face, O my God!
  My delight of every kind will perish.

Such as want to get enjoyment
Take it from all their base pleasures;
  But may my desire, while ever I live, be
  To see thy face, my God.

And if the stars of heaven escaped,
If the great earth flew from its place,
  My whole happiness, dear Jesus,
  Would end in thee.

Not men and the pleasures of the world
Are half able to flood my mind;
  The whole is in thee unebbing
  That I want to enjoy.

I am waiting for thy holy speech,
Which sets my feeble heart on fire;
  One part of thy pure name, if I had it,
  Would melt me all in true joy.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

🏠 Hafan Emynau Angelfire